|
Arferid gweld yr Afanc Ewropeaidd ( Castor fiber ) yn eang ledled Ewrop a Gogledd Asia.
Diflannodd yng Nghymru tua'r 12fed ganrif, oherwydd iddo gael ei hela'n ormodol am ei gig a'i ffwr - nid am ei fod yn cael ei ystyried yn rhywogaeth broblemus nac am fod ei gynefin wedi diflannu.

Llun canoloesol o'r afanc Ewropeaidd wedi'i gerfio ar ddarn o bren, yn dangos
y gred gyffredinol ei fod yn gallu cludo boncyffion coed
Mae olew chwarennol ( castoreum ) o waelod ei gynffon yn gyfoethog mewn asid salisylig, cynhwysyn sylfaenol mewn cyffuriau aspirin modern, ac fe'i defnyddiwyd yn eang yn y cyfnod canoloesol fel triniaeth ar gyfer cur pen.
Anifail nosol a dyfrol yw'r afanc yn bennaf, ac mae'n gallu aros dan d?r am hyd at 15 munud ar y tro. Mae ei ffwr yn dal d?r, ei goesau ôl yn weog a'i gynffon yn wastad a di-flew.
Fel y cnofil mwyaf yn Ewrop, yn gyffredinol, mae'n 100-140 cm o hyd ac mae'n gallu byw am ryw 10 mlynedd fel rheol yn y gwyllt.

Afanc gyda'i lysiau gwyrdd gwanwynol [Llun drwy garedigrwydd Roy Dennis]
Mae'r afanc yn llysieuwr. Mae'n well ganddo fwyta planhigion dyfrol, perlysiau a llwyni. Mae dail, canghennau a rhisgl coed, fel bedw, derw, criafol, gwerni a helyg, yn rhan o'i ddeiet hefyd - ac mae'n hoff iawn o aethnenni a phoplys hefyd. Pur anaml mae'n dewis conwydd.
Fel rheol, mae afancod yn byw mewn grwpiau teuluol bychain o 3-5 o unigolion. Mae oddeutu 2-5 o "genawon" yn cael eu geni bob blwyddyn, gyda'r rhai bach, fel rheol, yn gadael eu rhieni yn eu hail flwyddyn.
|