logo
banner swimming beaver
link to  welsh version of website
beaver basics
  Ailgyflwyno'r afanc yn Ewrop

Erbyn dechrau'r 20 fed ganrif, roedd hela wedi gostwng poblogaeth yr afanc yn Ewrop i gyn lleied â ryw 1000 o unigolion. Yna dechreuwyd ailgyflwyno'r rhywogaeth yn Sweden, mor bell yn ôl â 1922.

Mae ailgyflwyno rhywogaethau sydd wedi diflannu, 'lle bo hynny'n ymarferol', yn ddyletswydd a orfodwyd ar lywodraethau gan Gyfarwyddyd Cynefinoedd Ewrop yn 1984.

Yn ystod yr 80 mlynedd diwethaf, mae'r afanc wedi cael ei ailgyflwyno i 27 o wledydd ar dir mawr Ewrop, fel a ddangosir yn Nhabl 1.

Dosbarthiad yr Afanc yn Ewrop

Mae lleoliadau'r poblogaethau relic wedi'u marcio mewn du: 1 Castor fiber fiber; 2 Castor fiber albicus; 3 Castor fiber galliae; 4 Castor fiber belarusicus. Mae'r arlliw coch yn cynrychioli amrediad presennol Castor fiber. Mae'r arlliw brown yn cynrychioli amrediad presennol Castor canadensis yn y Ffindir.   Y safleoedd ailgyflwyno yw'r sgwariau lle nad yw'r afanc wedi ymledu'n sylweddol eto.                                

Roedd poblogaeth yr Afanc Ewropeaidd yn fwy na 600,000 erbyn 2003 ac roedd yn byw mewn amrywiaeth eang o gynefinoedd gwlyb, o fynydd-dir yn yr ucheldir i barciau neo-drefol.

Prydain, Albania, Bwlgaria, Groeg, Macedonia a'r Eidal yw'r unig wledydd sy'n weddill yn ei ystod naturiol yn Ewrop lle nad yw'n bresennol eto.    

Tabl 1    Hanes a Statws Presennol yr Afanc Ewropeaidd

Gwlad   
Dyddiad Diflannu  
Dyddiad Cyflwyno Gwarchodaeth

Dyddiadau Ailgyflwyno a / neu Adleoli

 

Maint y Boblogaeth Bresennol

Albania Anhysbys - - 0
Awstria 1869 - 1970-90 Mwy na 1300
Belarws Gweddillion 1922 - 24000
Gwlad Belg 1848 - 1998-99 100-130
Bosnia a Herzegovina Anhysbys - 2005 40
Bwlgaria Anhysbys - - 0
Croatia 1857? - 1996-98 150
Y Weriniaeth Tsiec 17eg ganrif - 1991-2, 1996 300
Denmarc c500CC 2 - 1999 75
Lloegr Cyn y 12fed ganrif - (2002
gyda ffensys)
(6)
Estonia 1841 - 1957 10000
Y Ffindir 1868 1868 1935-37, 1995 1500
Ffrainc Gweddillion 1909 1959-95 7000-10000
Yr Almaen Gweddillion 1910 1936-40, 1966-89 8000-10000
Groeg Anhysbys - - 0
Hwngari 1865 - 1980-2000 70
Yr Eidal 1541 - Arfaethedig 0
Kazakhstan Anhysbys - - 1000
Latfia 1830au - 1927-52, 1975-84 50000
Lithwania 1938 - 1947-59 32000-50000
Luxembourg Anhysbys - 2000 3 Llai na 10
Macedonia Anhysbys - - 0
Mongolia a Tsieina (Xinjiang) Gweddillion - 1959-85 800
Yr Iseldiroedd 1826 - 1988-2000 Mwy na150
Norwy Gweddillion 1845 1925-32, 1952-56 Mwy na 70000
Gwlad Pwyl 1844 1923 1943-49, 1975-86 17000
Portiwgal Anhysbys - - 0
Romania 1824? - 1998-99 Mwy na 28
Rwsia Gweddillion 1922 1927-33, 1934-41, 1946-64 232000-300000
Yr Alban 16eg ganrif - Arfaethedig 0
Serbia 1903? - 2004-2006 60
Slovakia 1851 - 1995 Mwy na 500
Slofenia Anhysbys - 2000 5 Llai na 10
Sbaen Tua 1600 - 2003 Mwy na 30
Sweden 1871 1873 1922-39 Mwy na 100000
Y Swisdir 1820 - 1956-77 Mwy na 350
Yr Wcrain Gweddillion 1922 - 6000
Cymru 12fed ganrif - - 0

•  Mae'n bur debyg hefyd bod afancod wedi mewnfudo o Groatia ar hyd y Sava, lle mae afancod yn bresennol at ffin Bosnia.

•  Yn seiliedig ar y gweddillion is-ffosil. Mae tystiolaeth ieithegol enwau lleoedd yn awgrymu bod gweddillion wedi goroesi hyd at yr 11eg ganrif o bosibl.            

•  Ymlediad naturiol o Wlad Belg.

•  Yn y cyfnodau cynllunio terfynol.

•  Ymlediad naturiol o Groatia.

Gwybodaeth Bellach  

Halley, D.J. a Rosell, F. (2002). The beaver's reconquest of Eurasia: status, population development and management of a conservation success. Mammal Review 32:153-178.

Hartman, G. (1994). Ecological studies of a reintroduced beaver Castor fiber population. Ph.D. thesis, Prifysgol Sweden ar gyfer Gwyddoniaethau Amaethyddol, Uppsala. Nolet, B. a Rosell, F. (1998).

 


 
© Beaver Information Exchange
for Wales