logo
banner swimming beaver
link to  welsh version of website
economic benefits
environmental benefit
maximising local benefits
  Manteision Uniongyrchol

Ceir tystiolaeth sylweddol sy'n dangos bod ailgyflwyno afancod wedi arwain at greu refeniw o dwristiaeth natur sydd o werth i'r economi leol.

Y safleoedd mwyaf priodol ar gyfer dechrau ailgyflwyno yw mannau anghysbell lle mae ffurfiau amgen o fywoliaeth o ddefnydd traddodiadol o dir yn dirywio.                            

Mae sawl peth yn gwneud afancod yn greaduriaid delfrydol ar gyfer twristiaeth natur:

•  Maent yn gallu dod i arfer yn rhwydd â phresenoldeb pobl - gan ymweld ag ardaloedd neo-drefol hyd yn oed.

•  Mae eu delwedd, eu hymddygiad a'u rhan mewn llen gwerin - fel a welwyd yn ddiweddar yn y ffilm hynod lwyddiannus, The Lion, The Witch and the Wardrobe - yn eu gwneud yn atyniadol iawn i blant.         

•  Mae eu deiet isel mewn calorïau o lystyfiant a'u gofynion cynnal a chadw ar gyfer eu cynefin lleol yn gofyn am ryw 18 awr y dydd o weithgarwch.

•  Gan eu bod yn haws i'w gweld ben bore neu wrth iddi nosi, mae ymweliadau a drefnir yn cynnwys aros dros nos yn aml, er mwyn gwneud yn fawr o bob cyfle i'w gweld yn llwyddiannus.

Delfrydol ar gyfer twristiaeth natur  

Felly, mae gwylio afancod yn gallu arwain at fanteision refeniw i berchnogion llety gwyliau.   Ceir incwm pellach wrth godi ffïoedd am dywys, cynnig cyfleoedd gwylio a chanolfannau ymweld, darparu lluniaeth, nwyddau adwerthu a chludiant.    

Ymhlith y manteision ehangach fyth mae'r effaith "ymbarel" gydag ailgyflwyno'n rhoi hwb i dwristiaeth ar gyfer atyniadau natur, diwylliannol a chyffredinol eraill.                                                   

Gall "brand" yr afanc fod yn ddyfais marchnata defnyddiol hefyd ar gyfer cynhyrchion a gwasanaethau lleol.

 


 
© Beaver Information Exchange
for Wales