logo
banner swimming beaver
link to  welsh version of website
economic benefits
environmental benefit
maximising local benefits
  Cynsail Rhywogaethau Eraill   

Am resymau amlwg, nid oes modd mesur effaith uniongyrchol manteision twristiaeth natur yr afanc yng Nghymru nac yn y DG.  

Fodd bynnag, mae'r profiad o allu rhywogaethau eraill i greu refeniw yn arwydd o botensial sylweddol.         

Er enghraifft, denodd Canolfan y Barcud Coch yng Nghymru 33,000 o ymwelwyr yn 2004 gyda thâl mynediad o £2.50 i bob oedolyn [Cyfeiriad Bereziat a Graham 2005].

Yn yr un modd, denodd Canolfan Gwalch y Pysgod yn Loch Garten yn yr Alban gyfartaledd o 33,600 o ymwelwyr rhwng 1998 a 2001, gan godi tâl mynediad o £3 [Cyfeiriad Shiel ac eraill 2002] .

Yn y ddau achos, yn ychwanegol at y tâl mynediad, gellir cael refeniw sylweddol pellach, a gwaith, yn sgil gwariant ategol ar lety, bwyd, nwyddau adwerthu, cludiant etc.                                                  

Arweiniodd ychwanegu gwariant ategol o'r fath at greu £430,000 o incwm ychwanegol ar gyfer y gymuned leol yn 2001 wedi i'r pâr cyntaf o Weilch y Pysgod fagu'n llwyddiannus yn Ardal y Llynnoedd.