|
Mae proses ymgynghori ar droed i gynnwys pawb perthnasol mewn asesiad ar y cyd o'r cyfleoedd ar gyfer ailgyflwyno'r afanc, a'r manteision a'r costau cysylltiedig â menter o'r fath.
Byddai angen cymeradwyaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru a Chyngor Cefn Gwlad Cymru (CCGC), fel ei gorff rheoli perthnasol, ar gyfer ailgyflwyno.
Cynllun Gweithredu
Cynhaliwyd cyfarfod i asesu ecoleg ac effaith debygol ailgyflwyno'r afanc yng Nghymru yn y Drenewydd ym Mhowys fis Gorffennaf 2005.
Mynychwyd y cyfarfod hwn gan gynrychiolwyr o 24 o sefydliadau o'r sectorau ffermio, coedwigaeth, pysgodfeydd, dyfroedd a chadwraeth.
Cytunodd y cyfarfod i gonsensws i barhau i edrych ar ymarferoldeb cyflwyno'r Afanc Ewropeaidd i Gymru.
Penderfynwyd ar nifer o weithredoedd, a rhestrir yr elfennau allweddol a berthyn iddynt isod:
- Sicrhau bod NFU Cymru, UAC, CLA, FTA, WSTAA a defnyddwyr tir eraill a physgodfeydd yn cael cyfle i leisio unrhyw bryderon ynghylch ailgyflwyno yn llawn - yn seiliedig i ddechrau efallai ar "restr wirio" o faterion. Byddai hyn yn cynnwys trafod gyda'u haelodau ac edrych ar ffynonellau o wybodaeth y cytunir eu bod yn ddi-duedd ac yn ddibynadwy. Dylid penodi "person cyswllt" i sicrhau bod y broses hon yn mynd rhagddi'n drwyadl ac yn foddhaol.
- A chymryd yn ganiataol y gellir cwblhau'r broses hon yn foddhaol, dylai'r ffordd fod yn glir i ddefnyddwyr tir a physgodfeydd ffurfio Gr?p Cyswllt gyda sefydliadau cadwriaethol a sefydliadau eraill - yn cynnwys buddiannau pellach, fel twristiaeth. Bydd angen penderfyniad ynghylch pa sefydliadau fydd yn ymuno â'r gr?p hwn a pha rai fydd mewn cysylltiad.
- Dylai'r Gr?p Cyswllt hwn dderbyn ysgrifennydd a ddarperir gan NGO - awgrymir yr Ymddiriedolaethau Natur (YN) ar gyfer y gwaith hwn.
- Dylid cytuno ar strategaeth a gwneud cyflwyniad ar y cyd i CCGC, y Cynulliad a chyrff perthnasol eraill.
Gallai'r strategaeth gynnwys:
- Rhagamodau cyffredinol ar gyfer ailgyflwyno - ee cyfle i'w ddilyn yn gyfreithiol i ddeiliaid tir ymarfer opsiynau llawn ar eu heiddo, yn cynnwys y cyfle i ladd a chwalu argaeau.
- Y weithdrefn ar gyfer ailgyflwyno unigol: ee asesiad o effaith amgylcheddol; strategaethau cwarantin ac ymadael; gwneud yn fawr o'r manteision i'r economi leol.
- Cyllid. Gofynion a ffynonellau (yn cynnwys cyllid a roddir yn benodol ar gyfer yr afanc ac na fyddai ar gael fel arall), o gadw mewn cof y manteision, y costau a'r refeniw o ailgyflwyno.
- Asesu'r Gwasanaeth Cefnogi ar gyfer Rheoli Afancod er mwyn darparu rhwydwaith o gyngor ar gyfer materion yn ymwneud ag afancod. Dylid ystyried gwasanaeth ymateb cyflym lleol ar gyfer symud ac adleoli afancod hefyd.
- Ystyried safleoedd rhyddhau unigol (gyda threfniadau boddhaol ar gyfer yr agweddau uchod).
- Hyrwyddo. Pa gyfleusterau fyddai eu hangen ar gyfer dosbarthu gwybodaeth i bobl â diddordeb, yn cynnwys y cyhoedd, y wasg ac eraill?
- Dylai'r prosiect Beavers Mean Business cyfredol i weld pa fanteision economaidd a geir yn sgil ailgyflwyno afancod, a sut orau i wneud y gorau o'r rhain ar lefel leol ar gyfer cymunedau a deiliaid tir, fwrw ymlaen ac adrodd yn ôl i bawb sydd â diddordeb.
Mae sefydlu Gr?p Ymgynghori wedi cael ei gynnig hefyd. Yn wahanol i'r gr?p cyswllt yn 2 uchod, byddai hwn yn cynnwys unigolion a sefydliadau sy'n dymuno cymryd rhan yn y broses. Gallai ddarparu cyfraniad arbenigol ar gyfer y gr?p cyswllt a galluogi cyfranogiad ehangach - tra'n caniatáu gweithredu'r gweithredoedd uchod mewn ffordd mor syml ac uniongyrchol ag y bo modd.
Sefydliadau Cysylltiedig
Y sefydliadau a fynychodd gyfarfod Y Drenewydd ar 25 ain Gorffennaf 2005 a / neu sy'n cymryd rhan yn y broses ymgynghori yw:
Ymddiriedolaeth Natur Sir Frycheiniog
Y Conffederasiwn o Ddiwydiannau Coedwigaeth
Cyngor Cefn Gwlad Cymru
Cymdeithas Tiroedd a Busnesau Gwledig Cymru
Asiantaeth yr Amgylchedd
Undeb Amaethwyr Cymru
Y Pwyllgor Ymgynghorol ar gyfer Ecoleg Pysgodfeydd a Hamdden
Comisiwn Coedwigaeth Cymru
Y Grwp Ymgynghorol ar gyfer Ffermio a Bywyd Gwyllt, Cymru
Ymddiriedolaeth Natur Gwent
Ymddiriedolaeth Mamaliaid y DG
Ymddiriedolaeth Natur Sir Drefaldwyn
Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr yng Nghymru
Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru
Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru
Ymddiriedolaeth Natur Sir Faesyfed
RSPB Cymru
Ymddiriedolaeth Natur yr Alban
Dwr Hafren Trent CCC
Parc Cenedlaethol Eryri
Cymdeithas Bysgota Eog a Brithyll Cymru
Dwr Cymru
Menter Cymru Wyllt
Yr Ymddiriedolaeth ar gyfer Adar Gwyllt a Gwlybdiroedd
Uned Ymchwil Cadwraeth Bywyd Gwyllt
Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru
Bydd y sefydliadau hyn, ynghyd â chyrff ac unigolion perthnasol eraill, yn dal ati i gymryd rhan yn y broses ymgynghori.
Y Camau Nesaf
Cynhelir cyfarfodydd unigol ar hyn o bryd gyda'r sefydliadau uchod ac mae llawer ohonynt yn dechrau darparu gwybodaeth yn awr am afancod ar gyfer eu haelodau.
O gadw mewn cof fwriad y Cynllun Gweithredu a amlinellir uchod, y cam nesaf fydd ffurfio Gr?p Cyswllt i benderfynu ar sefyllfa gyffredin.
Rhoddir manylion pellach yn y wefan hon.
|