|
A oes digon o gynefin ar gyfer ailgyflwyno'r afanc?
Mae astudiaeth ddichonoldeb ecolegol, a gomisiynwyd fel rhan o Fenter Asesu Afancod Cymru, wedi dangos bod digon o gynefinoedd addas i'w cael ar gyfer afancod yng Nghymru.
Sut fyddai'r ailgyflwyno gwreiddiol yn cael ei reoli?
Byddai lleoliad gyda chynefin da a digon o fwyd yn cael ei ddewis.
Byddai'r anifeiliaid a ailgyflwynid yn cael tag electronig ac yn cael eu monitro gan dîm penodol.
Byddai unrhyw effeithiau negyddol a allai ddod yn sgil afancod yn cael eu rheoli gan dîm penodedig.
Pwy fydd yn gyfrifol am afancod yn yr hirdymor?
LlCC drwy gyfrwng CCGC fyddai'n gyfrifol yn y pen draw, yn yr hirdymor.
Gall sefydliadau anstatudol addas fod yn gyfrifol am y gwaith rheoli o ddydd i ddydd, fel yr Ymddiriedolaethau Natur, mewn partneriaeth ag Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru mae'n bur debyg.
A yw ailgyflwyno'r afanc yn agor drysau i rywogaethau eraill, h.y., a fydd camau'n cael eu cymryd i ailgyflwyno bleiddiaid, eirth a'r lyncs?
Dim ond ymwneud ag asesu'r posibilrwydd o ailgyflwyno'r afanc yng Nghymru mae'r bartneriaeth hon. Nid oes cyswllt gydag unrhyw rywogaethau eraill nad ydynt yn byw ar Ynysoedd Prydain ar hyn o bryd.
Yn wahanol i lawer o rywogaethau eraill, diflannodd yr afanc oherwydd iddo gael ei or-hela am ei gig, ei ffwr a sgil-gynhyrchion meddygol, yn hytrach nag oherwydd iddo golli ei gynefin neu am ei fod yn cael ei ystyried yn rhywogaeth broblemus.
Mae hyn yn golygu y gellid ei ailgyflwyno'n gymharol rwydd gan fod y cynefin addas yn dal yn bresennol. Hefyd, mae afancod wedi byw ochr yn ochr â gweithgareddau ffermio, pysgota a gweithgareddau dynol eraill a chan nad ydynt yn symud llawer, ni fyddai eu presenoldeb yn tarfu fawr ddim ar neb. Nid ydynt yn beryglus mewn unrhyw ffordd i dda byw na phobl.
Dylid nodi nad yw ailgyflwyno rhywogaethau eraill a arferai fyw ym Mhrydain, fel y Barcud Coch a Gwalch y Pysgod, wedi arwain at broblemau. Yn wir, maent wedi creu refeniw sylweddol gan dwristiaid sy'n ymddiddori mewn natur. Er enghraifft, mae gwylio eryrod yn creu llawer mwy o incwm na ffermio ar Ynys Mull yn awr.
A fyddai canllawiau IUCN ynghylch ailgyflwyno'n cael eu dilyn pe ailgyflwynid afancod i Gymru?
Byddent. Byddai canllawiau a gweithdrefnau IUCN yn cael eu dilyn (gweler Adran 8.2).
A fyddai'r ailgyflwyno'n derbyn cymeradwyaeth gan gyrff rheoli?
Byddai. Er mwyn ailgyflwyno afancod yn gyfreithlon yng Nghymru, byddai'n rhaid wrth gymeradwyaeth y corff rheoli perthnasol (CCGC), a Llywodraeth Cynulliad Cymru wrth gwrs.
|